Similar alternatives
Details
Tin Sardines yn cyflwyno Ynys & SYBS - Taith albwm diweddara YNYS 'Dosbarth Nos' Mae'n bleser mawr gennym gyhoeddi bod YNYS yn dod i YR HEN LYS, Caernarfon, fel rhan o'u taith o Cymru a Lloegr! Ynys, band sy'n aelod balch o deulu Libertino. Mae eu sain unigryw yn cyfuno elfennau o bŵer-pop, psych-rock, ac indie gyda geiriau dwys a chynhyrchiad cain. Mae'r band wedi bod yn ennill clod mawr gyda'u cerddoriaeth ac mae'r albwm newydd yn llawn alawon i'ch swyno. Yn cefnogi YNYS ar y noson, bydd y band SYBS, un arall o deulu Libertino. Mae SYBS yn adnabyddus am eu setiau byw trydanol. Mae eu album cyntaf 'Olew Nadroedd' wedi bod yn un o hoff ablums Tin Sartines blwyddyn yma. Fel rhan o gyfres o gigs Tin Sardines, rydym yn gyffrous iawn i groesawu'r ddau fand anhygoel yma i YR HEN LYS.
YR HEN LYS, CAERNARFON 28/09/24 DRYSAU AM 20.00